3.7.1 Lliniaru

Tiwtorial am liniaru newid yn yr hinsawdd

Mae lliniaru newid yn yr hinsawdd yn ymwneud yn bennaf â lleihau faint o nwyon tŷ gwydr sy’n mynd i’r atmosffer. Gallwn geisio gwneud hyn:

  • drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gan bobl, er enghraifft drwy losgi llai o danwyddau ffosil, neu drwy ddal y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu rhyddhau wrth losgi’r tanwyddau hynny a storio’r nwyon rywle
  • drwy gynyddu faint o garbon sy’n cael ei godi gan blanhigion, priddoedd a’r cefnforoedd.

 

Er mwyn cyflawni’r cyntaf o’r ddau hyn, mae angen mynd i’r afael ag ystod eang o arferion ymysg pobl sy’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr. Mae’r amserlen a ganlyn wedi’i haddasu ar sail tabl ym mhedwerydd Adroddiad Asesu’r IPCC:

 

Sector Rhai opsiynau lliniaru sydd ar gael ar hyn o brydRhai opsiynau a allai fod ar gael cyn 2030

Cyflenwad ynni

  • Power stationGwella effeithlonrwydd y cyflenwad ynni fel bod llai o ynni’n cael ei wastraffu
  • Newid i ddefnyddio nwy yn lle glo
  • Ynni niwclear
  • Defnyddio gwres a phŵer adnewyddadwy (pŵer dŵr, yr haul, y gwynt, geothermol a bio-ynni)
  • Defnyddio technolegau gwres a phŵer cyfun (sy’n gwastraffu llai o ynni)
  • Dal a Storio Carbon (e.e. storio’r carbon deuocsid sy’n cael ei dynnu o nwy naturiol)
  • Dulliau ehangach a gwell ar gyfer Dal a Storio Carbon
  • Pŵer niwclear datblygedig
  • Ynni adnewyddadwy datblygedig, gan gynnwys ynni’r llanw ac ynni’r tonnau, a gwell systemau ynni haul

Trafnidiaeth

  • Defnyddio mwy ar gerbydau sy’n effeithlon o ran tanwydd, gan gynnwys cerbydau hybrid (sydd ag injenni petrol a thrydan)
  • Defnyddio cerbydau disel glanach
  • Pweru cerbydau â biodanwyddau
  • Newid o drafnidiaeth ffyrdd i’r rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus
  • Cerdded a beicio mwy
  • Cynllunio datblygiadau newydd i leihau pellter teithio
  • Gwell biodanwyddau
  • Awyrennau sy’n fwy effeithlon o ran ynni
  • Cerbydau trydan a cherbydau hybrid datblygedig
Car exhausts

Adeiladau

  • Goleuadau effeithlon a defnyddio golau naturiol
  • Cyfarpar trydan, a dyfeisiau gwresogi ac oeri mwy effeithlon
  • Gwell inswleiddio
  • Dylunio adeiladau i ddefnyddio golau’r haul yn dda at wresogi ac awyr iach at oeri
  • Hylifau oeri gwahanol
  • Mesuryddion deallus sy’n rhoi adborth a rheolaeth
  • Integreiddio paneli ynni haul mewn adeiladau

Diwydiant


  • Recycling logo Cyflwyno offer trydan mwy effeithlon
  • Adennill gwres a phŵer o beiriannau
  • Ailgylchu mwy o ddefnyddiau
  • Arferion sy’n fwy effeithlon o ran ynni

Amaethyddiaeth

  • Gwella’r rheolaeth ar dir cnydau a thir pori er mwyn storio mwy o garbon yn y pridd
  • Adfer priddoedd mawnog sydd wedi’u diwyllio a thir dirywiedig i gyflwr mwy naturiol (er mwyn iddyn nhw storio mwy o garbon)
  • Gwella technegau tyfu reis
  • Rheoli da byw a thail yn well er mwyn lleihau allyriadau methan
  • Gwella technegau gwasgaru gwrteithiau nitrogen er mwyn lleihau allyriadau asid nitraidd
  • Defnyddio arferion ffermio sy’n fwy effeithlon o ran ynni
  • Gwella maint y cnydau

Coedwigaeth/
coedwigoedd

  • Coedwigo ac ailgoedwigo (tyfu mwy o goed)
  • Lleihau datgoedwigo (cwympo llai o goed)
  • Gwell dulliau rheoli coedwigoedd
  • Defnyddio cynnyrch coedwigoedd at fio-ynni yn lle defnyddio tanwyddau ffosil
  • Datblygu rhywogaethau o goed sy’n ildio mwy o ynni o’u defnyddio fel tanwydd
  • Datblygu rhywogaethau o goed sy’n well o ran amsugno carbon deuocsid

Rheoli gwastraff

  • Ailgylchu mwy o wastraff
  • Adennill methan o safleoedd tirlenwi
  • Llosgi gwastraff a defnyddio’r ynni sy’n cael ei greu
  • Compostio gwastraff  organig
  • Dulliau i ocsideiddio cymaint â phosibl o fethan

Tabl gwreiddiol yr IPCC (tabl SPM.3)

Ar sail y tabl uchod, mae’n ymddangos y gallai llawer gael ei wneud i liniaru newid yn yr hinsawdd. Yn anffodus, mae pethau’n fwy cymhleth. Mae yna lawer o resymau pam nad ydyn ni’n gwneud digon o’r pethau uchod.

 

Ymarferion

  1. O’ch profiad chi, ydych chi’n credu ein bod yn gwneud digon o’r pethau sydd wedi’u rhestru yn y tabl uchod? Meddyliwch am y rhesymau nad ydyn ni’n gwneud digon. Er enghraifft, os ydych yn credu nad yw pobl yn gwneud digon o ymdrech i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle ceir a lorïau, pam mae hynny’n digwydd yn eich barn chi? Gallech chi feddwl hefyd am ffyrdd i wella’r sefyllfa.
  2. Mae yna lawer o ymdrechion – gan lywodraethau, sefydliadau anllywodraethol, cwmnïau ac unigolion – sy’n ceisio ein hannog i newid ein ffordd o fyw ac allyrru llai o nwyon tŷ gwydr. Ysgrifennwch restr o unrhyw rai y gallwch feddwl amdanyn nhw neu rydych chi wedi rhoi cynnig arnyn nhw eich hun (fel ymgyrchoedd ‘cerdded i’r ysgol’). Neu, chwiliwch ar y we am fentrau o’r fath. Cymerwch un cynllun a phenderfynwch i ba sector y mae’n perthyn (e.e. trafnidiaeth, y cyflenwad ynni). Yn eich geiriau chi’ch hun, ysgrifennwch beth mae’r cynllun yn ceisio ei gyflawni (e.e. hybu mwy o ailgylchu, neu brynu mwy o fwydydd lleol).

 

Targedau allyriadau

Mae gan lywodraethau ran allweddol i’w chwarae wrth liniaru newid yn yr hinsawdd. Maen nhw’n gallu datblygu polisïau a chynlluniau i annog pobl a busnesau i fabwysiadu mesurau i liniaru newidiadau yn yr hinsawdd. Mae llawer o’r llywodraethau yn y byd wedi pennu targedau i helpu yn hyn o beth. Yn y Deyrnas Unedig, sefydlodd Deddf Newid Hinsawdd 2008 ffordd newydd o reoli ac ymateb i newid yn yr hinsawdd yn y Deyrnas Unedig. Fe greodd y Ddeddf darged sy’n orfodol o dan y gyfraith, sef lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Unedig i 80% o leiaf yn is na lefelau 1990 erbyn 2050. Dyma un o’r targedau mwyaf ymestynnol sydd wedi cael ei bennu gan lywodraeth genedlaethol.

Y targed newid hinsawdd mwyaf adnabyddus, efallai, yw Protocol Kyoto. Cafodd hwn ei fabwysiadu ym 1997 fel protocol i Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC), ac mae Protocol Kyoto yn gwneud ymrwymiad, sy’n orfodol o dan y gyfraith, y bydd y gwledydd sy’n cymryd rhan yn lleihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr 5% o’i gymharu â lefelau 1990, yn ystod y cyfnod 2008-2012. Mae 193 o wledydd yn cymryd rhan yn y protocol, gan gynnwys 37 o wledydd diwydiannol y byd, ynghyd â’r Gymuned Ewropeaidd, ond heb gynnwys yr Unol Daleithiau.

Roedd Protocol Kyoto yn cael ei weld fel y cam cyntaf tuag at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ond, yn fyd-eang, mae allyriadau carbon deuocsid yn cynyddu, nid yn gostwng, fel mae’r eitem newyddion yma yn 2011 yn dangos. Er mwyn osgoi canlyniadau gwaethaf newid yn yr hinsawdd (newid peryglus yn yr hinsawdd’ fel y mae’n cael ei alw), mae rhai gwyddonwyr yn credu bod rhaid inni gyfyngu cynhesu byd-eang i 2°C uwchben y lefelau cyn-ddiwydiannol. Byddai hynny’n golygu bod angen gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr i ryw 80% o lefelau 1990, yr un fath ag ymrwymiad y Deyrnas Unedig.